anarchol

October 10, 2007

Y Byd yn Eich Dwylo – Ffederasiwn Anarchaidd (UK)

Filed under: Uncategorized — anarchol @ 4:55 pm

Translate this page into english

Rhagarweiniad

Nid yw’r byd yr ydym yn byw ynddo yn gwneud unrhyw synnwyr. Mae miliynau yn newynu yn y Trydydd Byd tra bod y Gymuned Economaidd yn pentyrru bwyd na ellir ei werthu. Mae arweinwyr y byd chwithau hefyd yn defnyddio trais er mwyn sicrhau heddwch. Mae cenhedloedd bychan yn ymladd â’u cymdogion dros ddarnau o dir. Mae Llywodraethau yn rhoi blaenoriaeth i enillion tymor byr ar draul parhad adnoddau’r blaned. Mae’r rhelyw o’r byd yn llafurio am fodolaeth foel iawn tra bod lleiafrif bychan yn byw mewn ysblander aruthrol. Gorthrymir y tlawd ym mhob cornel o’r byd ac mae menywod a phobl dduon yn wynebu gormes a chaledi ychwanegol.

Yn wyneb y gwallgofrwydd o’r math yma mae’r Ffederasiwn Anarchaidd yn cymeradwyo byd o fath cwbl wahanol. Yn hytrach nag ysbail, rhaid dadlau dros gydweithrediad. Rhaid disodli angen artiffisial gan osod digonedd cyffredinol yn ei le. Mae angen byw mewn cytgord â’r blaned nid yn ei herbyn. Mae’n rhaid ysgubo ymaith y gyfundrefn lywodraethol ac ymelwol a gymerir yn ganiataol i raddau helaeth. Mae byd gwell yn bosib. Mae’r pamffledyn yma yn amlinellu sut y buasai dewis Comiwnistaidd Anarchaidd, yn hytrach na bod yn freuddwyd Iwtopaidd, yn wir yn cynnig yr ateb gorau posib, ateb call a rhesymegol i broblemau’r byd.

1. CYFUNDREFN BWDR

Yr ydym yn byw mewn byd cyfoethog a llewyrchus. Wrth feddwl am dlodi’r byd, mae’n anodd credu fod yna ddigon a mwy ar gael i bawb. Mae’n fater o ffaith y cynhyrchir tair gwaith cymaint o fyd ag sy eisiau. Eto, tra bo rhai pobl yn mynd heb, mae eraill yn gallu fforddio gwario miliynau ar bartïon a gwleddoedd i’w ffrindiau sy llawn cyn gyfoethoced. Mae’n gwbl amlwg i bawb ein bod yn byw mewn byd lle bo dosbarth cymdeithasol yn treiddio trwy bob agwedd o gymdeithas. Ond beth ydy’n ni’n ei feddwl wrth ddosbarth? Ar y lefel sylfaenol, mae dau ddosbarth: y rhai sy naill berchen neu yn chwarae rhan allweddol wrth reoli cyfoeth y byd a’i adnoddau, dosbarth y penaethiaid cyfalafol a’r rhai sy naill yn gorfod gweithio neu hawlio budd-daliadau er mwyn goroesi, y dosbarth llafur.

Rhan sylfaenol ac annatod o’r gyfundrefn ddosbarth sy’n effeithio bywydau pob unigolyn yn y byd yw’r gyfundrefn economaidd. “Cyfalafiaeth” y gelwir y gyfundrefn ac er iddi newid ei ffurf o bryd i’w gilydd, hon sydd wedi datblygu fel y grym trechaf dros y ddwy ganrif ddiwethaf. Gan ei bod mor hyblyg, yn addasu’n hawdd, ac mor hollgynhwysfawr a llygredig, ystyrir cyfalafiaeth gan bron pawb fel ffenomenon hollol naturiol ac anochel. Nid felly y mae.

Er mai cyfundrefn o ymelwad byd-eang a banditiaeth gyda chwmnïau aml-genedlaethol yn gweithredu ymhobman yw cyfalafiaeth, eithaf syml yw ei sylfaen. Yn ei hanfod, creir cyfoeth gan bobl sy’n defnyddio offer i addasu’r deunydd crai y mae natur yn ei ddarparu. Er mwyn goroesi, gorfodir gweithwyr i werthu eu llafur (“caethweisiaeth y cyflog”) am bris y farchnad. Yn eu gwaith, mae gweithwyr yn gwneud nwyddau sy’n rhan o fywyd beunyddiol a darparu gwasanaethau. Serch hynny, mae’r hyn a gaiff gweithwyr mewn tâl yn llai na gwerth y cynnyrch a’r gwasanaethau y maent yn eu creu a’u darparu.

Y gwahaniaeth yn y gwerth rhwng yr hyn y mae gweithwyr yn cynhyrchu a’r hyn y maent yn eu hennill yw sail yr elw aiff at y cyfalafwr. Yn y modd yma, lladratir eu cyfran o adnoddau’r ddaear a gwerth eu gwaith wrth weithwyr ymhobman. Yn yr ystyr yma, delir mantais arnynt. Trwy ymgrynhoi gwerth llafur miliynau o weithwyr, mae cyfalafwyr yn cynyddu eu cyfoeth a’u grym.

Cyfundrefn o gystadlu didrugaredd sy’n ansefydlog iawn yw cyfalafiaeth. Mae hyn yn arwain at argyfyngau economaidd lle y gall cyfalafwyr ond goroesi ar draul y gweithwyr. Pan fo elw yn disgyn, mae gweithwyr yn colli eu gwaith, gan greu’r diweithdra torfol sy’n un o nodweddion safonol bywyd heddiw.

Mae cyfalafiaeth yn cynhyrchu nwyddau er mwyn gwneud elw yn hytrach na chwrdd ag angen. Felly, yn hytrach na chynhyrchu ystod bychan o nwyddau defnyddiol, mae cwmnïau o hyd yn ceisio ehangu ar amrediad y nwyddau sydd ganddynt i’w cynnig. Felly, mewn archfarchnadoedd, mi ddown i o hyd i ddysenni o wahanol fathau o ddiaroglyddion, bastau dannedd a phowdrau golchi. Mae archfarchnadoedd fel Tesco, Sainsbury ac Asda yn gwerthu mwy neu lai yr un nwyddau, ond yr un yw eu cymhelliad: annog y cwsmer i brynu eu nwyddau nhw. Yn lle anelu eu consýrn at ddarparu’r hyn sy’n sicrhau ein goroesiad, eu hunig ddiddordeb yw gwneud elw. Nid yw’r ffaith fod pobl yn newynu yn cyfrif, mae’n rhaid i bobl gael arian ac mi fuasai’n well gan wneuthurwyr elw adael i’r bwyd bydru na’i roi i’r newynog a’r tlawd.

Mae hyn yn gynyddol ddigywilydd pan fo’r mynyddoedd enfawr o gig eidion, menyn a grawn, sy wedi eu cronni gan wledydd y GE, yn bodoli ochr yn ochr â newyn arswydus mewn rhannau helaeth o’r Affrig. Yn y cyd-destun yma, mae holl ymdrechion y digwyddiadau cerddorol elusennol bron yn gwbl ddibwrpas. Canlyniad prinderau dan orfodaeth yw creu’r mynyddoedd bwyd sydd, yn y farchnad yn golygu prisiau uchel ac elw. Mae’n well gan fiwrocratiaid y GE gael gwared ar y bwyd trwy ei ddympio yn y môr na bygwth proffidioldeb. Mae hyn yn digwydd ar draws y byd.

Wrth chwilio am elw, mae cyfalafiaeth wedi symud i mewn i oes prynwraeth.. Fe’n hanogir gan rwydwaith cyfryngol cymhleth i brynu, brynu, brynu. Nid yw hyd yn oed plant yn ddiogel rhag yr hysbysebwyr sy’n gwthio’u hunain i mewn i’n tai yn gyson trwy gyfrwng y teledu ac yn gorchuddio pob lle gwag gyda byrddau poster, sloganau ac arwyddion siopau. Gyda chymorth adnoddau technolegol anferth, mae cyfalafiaeth yn datblygu cynhyrchion bythol newydd sy’n disodli’r rhai blaenorol. Ystyriwch sut y mae technoleg camerâu wedi newid dros y blynyddoedd. Mae rhyfeddod technolegol y llynedd bellach wedi darfod â bod. Mae’n rhaid i chi brynu’r diweddara a’r gorau.

Nid yw’r fath brynwriaeth yn gyfyngedig i’r gwledydd gorllewinol hynny sydd ar y brig. Mae hyd yn oed y dinasoedd tlotaf yn yr Affrig yn frith o hysbysebion sy’n annog pobl i brynu cynhyrchion sy’n ddiwerth neu’n beryglus. Serch hynny, dosbarth llafur y Trydydd Byd sy’n dioddef mwyaf o gyfalafiaeth ryngwladol, tra bod y dosbarth llywodraethol lleol yn bachu eu cyfran o’r cyfoeth.Ysbeilir eu hadnoddau – edrychwch ar anrhaith y fforestydd glaw – , a gorfodir y gweithwyr i dderbyn safon byw sy braidd yn ddigon i gadw dau ben llinyn ynghyd. Mae rhannau helaeth o’r Affrig yn methu darparu digon o fwyd i’w poblogaeth, ond eto maent yn tyfu cynnyrch i’w allforio. Mae De-ddwyrain Asia wedi’i droi’n gyfuniad o buteindy a slafdy. I bob diben, mae cyfalafiaeth yn treiddio trwy bob agwedd o fywyd. Coca Cola a hambyrgers Macdonalds yw gwir symbolau ‘trefn newydd y byd’.

2. CYFUNDREFN BWDR

O ganlyniad i fyw dan y fath gyfundrefn, mae llawer o weithwyr yn ddigon naturiol yn anfodlon ar eu byd, rhai yn fwy na’i gilydd. Er mwyn cynnal trefn a heddwch mewn cymdeithas, mae amrediad cyfan o ddulliau wedi eu datblygu er mwyn cadw pobl mewn trefn. Yr un mwyaf nerthol o’r rhain yw’r wladwriaeth, trwy gyfrwng y technegau cadw trefn gymdeithasol sy’n bodoli ar bob lefel o gymdeithas.

Mae’r wladwriaeth yn gweithredu law yn llaw â chyfalafiaeth wrth iddi rannu nifer o ddiddordebau cyffredin. Mae cyfalafiaeth yn rhoi cyfundrefn economaidd i’r wladwriaeth ac mae yn ei hariannu trwy ddatblygu adnoddau. Mae’r wladwriaeth yn ei thro yn darparu cyfundrefn cadw trefn sy’n caniatáu cyfalafiaeth i weithredu ei busnes yn effeithiol. Mewn gwledydd fel Tsheina, Ciwba, Gogledd Korea, ag ati, fe’u cyfunir dan ambarél un gyfundrefn, efallai’r disgrifiad gorau ohoni fuasai ‘cyfalafiaeth y wladwriaeth’.

Cyfundrefn o ryferthwy yn bennaf yw’r wladwriaeth er lles cynnal tra-arglwyddiaeth y dosbarth llywodraethol. Ond y ffordd orau o gynnal trefn yw trwy gytundeb y bobl yn hytrach na grym noeth. O ganlyniad, mae yna agweddau o wladwriaeth fodern sydd â’u bryd ar ein cymell i feddwl ar hyd ffyrdd arbennig ac ymddwyn fel dinasyddion ufudd. Mae’n ymddangos hefyd fod yna wyneb teyrngar tirion i’r wladwriaeth gan ei bod hi’n darparu buddion nawdd sydd i fod i helpu’r tlawd, y claf a’r henoed.

Trwy gyfrwng llywodraethau yn gweithredu o fewn y gyfundrefn seneddol a’r gwasanaeth sifil, mae’r wladwriaeth yn rheoli ei gweithrediadau. Mae’r lluoedd arfog, MI5, MI6, yr heddlu, y llysoedd a’r carchardai yn gweithredu i’n rheoli yn gorfforol. Maent yn asiantau milain sy’n cosbi’n llym os wnawn ni amau eu ‘hawl’ i arglwyddiaethu drosom. Beth bynnag, nid yw’r wladwriaeth na’i lluoedd gormesol yn ddi-ochr ac maent yn weithredol dros wrthwynebu ymgyrch y bobl dros ryddhad.

Er ei bod hi’n ymddangos fod y wladwriaeth les, y gyfundrefn ysgolion, gweithwyr cymdeithasol ag ati yn edrych ar ôl ein buddiannau, mewn gwirionedd dim ond dulliau gwahanol, mwy cyfrwys o’n rheoli ydynt ond maent wedi dod yn elfennau hanfodol am resymau economaidd.

Mae’r gwasanaeth iechyd yn bodoli yn bennaf er mwyn cynnal gweithlu iach ond dim ond cyn belled â bod angen gweithwyr iach ar y gyfundrefn er mwyn hyrwyddo ei gweithrediad. Mae camddefnyddio alcohol a sigarèts, ill dau, wrth wraidd llawer iawn o salwch difrifol ond maent yn darparu symiau mawr o arian i’r wladwriaeth mewn trethi. Ac nid oes neb wedi cynnal unrhyw ymgais o ddifri i danseilio proffidioldeb y ddau ddiwydiant yma. Daw elw o flaen iechyd.

Yn yr un modd, mae’r gyfundrefn addysg, ac yn fwy amlwg agored o dipyn, wedi ei threfnu o gwmpas yr angen am weithlu sy’n gallu ysgrifennu, darllen a gwneud mathemateg sylfaenol, tra ar yr un pryd, sy wedi ei drwytho i dderbyn gorchmynion yn ufudd a derbyn rheolaeth oddi uchod. Mae athrawon yn llenwi meddyliau’r ifanc â syniadau sy’n dderbyniol i’r dosbarth llywodraethol.

Atgyfnerthir y syniadau yma gan y cyfryngau torfol, radio, y diwydiant ffilmiau, papurau newydd a chylchgronau. Rhyngddynt maent yn creu corff o syniadau a adwaenir fel ‘synnwyr cyffredin’. Synnwyr cyffredin yw cyfundrefn gwerth poblogeiddiedig y dosbarth llywodraethol hynny sy’n wrthwynebus i bobl dosbarth llafur. Felly hefyd y mae cenedlaetholdeb, crefydd, gwladgarwch, hiliaeth a rhywiaeth sy mewn gwirionedd yn gwanhau cydgefnogaeth y dosbarth llafur, yn gyffredin o fewn y dosbarth llafur.

Mae pob un o’r ffactorau yma yn cyfrannu at y gamargraff fod yna ryddid, cyfiawnder cydraddoldeb a democratiaeth, ond mewn gwirionedd cael eu cryfhau mae gafael cyfalafiaeth a’r wladwriaeth. Cymerwch “ddemocratiaeth” fel esiampl. Pa bynnag blaid sy’n ennill etholiad cyffredinol, fawr ddim mae’n effeithio ar gyfalafiaeth a’r wladwriaeth. Mae dal mantais ar y dosbarth llafur yn parhau ac mae’r cyfoethog a’r pwerus yn dal i ddal eu gafael ar eu breintiau.. Gan mai’r blaid Dorïaidd sy fwyaf ei hymrwymiad yn y gyfundrefn tra-arglwyddiaethol, honno sy yn y safle orau i ennill etholiadau. Mae’r blaid Lafur, hyd yn oed pan gaiff y cyfle i lywodraethu, yn ymddwyn fel yr asiant bach di-asgwrn cefn i gyfalafiaeth ag yw hi.

Y tu allan i gyfundrefn y wladwriaeth, mae yna sefydliadau sy’n honni eu bod yn cynrychioli buddiannau’r dosbarth llafur tra eu bod mewn gwirionedd yn helpu cynnal cyfundrefn sy’n seiliedig ar ormes ac ymelwad. Mae’r undebau llafur yn esiamplau o’r fath sefydliadau. Yn gyntaf, maent yn tanseilio unrhyw ymdeimlad o bwrpas o fewn diwydiant ac mewn gweithleoedd unigol trwy rannu gweithwyr yn ôl lefel eu sgiliau. Mae hyn yn bytholi’r gwahaniaethu o ran incwm a statws o fewn y dosbarth llafur ac yn creu ‘pendefigaeth llafur’. Yn ail, mae’r undebau yn aml wedi eu trefnu bob yn ddiwydiant ac wrth wneud hyn yn rhannu ymrafael yn adrannau. Pa mor aml y mae streiciau wedi torri allan mewn diwydiannau gwahanol ond iddynt gael eu trechu fesul un?

Mae Undebau Llafur chwithau hefyd yn sefydliadau biwrocrataidd sydd â buddiannau breintiedig ar wahân i’r gweithwyr maent yn honni i’w harwain. Mae aelodau undebau eisiau ennill streiciau; mae penaethiaid undebau eisiau cadw eu dulliau byw cysurus. Pan fo gwrthdaro rhyngddynt, y gweithwyr sy’n cael eu bradychu.. Mae ymrwymiad dwfn gan fiwrocratiaethau yr Undebau mewn cyfalafiaeth oherwydd eu buddsoddiadau, eiddo y maent eu perchen, ag yn y blaen.

Mae’r holl broses o drafodaethau rhwng undebau a rheolaeth (a adwaenir fel cydfargeinio) ar y gorau ond yn llwyddo i sicrhau rhai buddion ychwanegol i’r gweithwyr tra’n cadw’r holl gyfundrefn o gam ddefnyddio yn ddigyfnewid.

Ar lefel wahanol, mae’r teulu yn arf pwysig iawn yn nwylo y rheolwyr. Mae plant yn aml yn dysgu syniadau am oruchafiaeth yr hil ddynol, hiliaeth, gwladgarwch a’r angen am dra-arglwyddiaethu ac ufudd-dod wrth eu rhieni (fel y gwnaethant hwy o’u rhieni eu hunain). Mae’r ffyrdd y mae pobl yn cydberthnasu i’w gilydd yn aml yn atgyfnerthu gormesau personol ac mae angen eu herio.

3. NEWID HYN OLL

Wedi darllen cyhyd, mi allech fod yn tybio beth o bosib y gellid ei wneud i ddymchwel y sustemau rheoli ac ymelwol sy’n tra-arglwyddiaethau dros bob agwedd o’n bywydau. All newid fod yn bosib mewn gwirionedd? Yr ateb yw gall! Mae’r wladwriaeth ynghyd â sefydliadau gormesol eraill yn bodoli yn bennaf am fod newid yn bosib. Mae’r gyfundrefn gyfalafol yn bodoli mewn cyflwr o argyfwng parhaol. I raddau, mae’r broses barhaol o ffyniant a dirwasgiad yn rhan o’r modd y mae cyfalafiaeth yn gweithio yn ei helpu trwy sicrhau mai ond y cryf fydd yn goroesi. Ar y llaw arall mae’n golygu ansefydlogrwydd parhaus a’r posibilrwydd cynyddol posib o wrthrefyloedd gan weithwyr wrth i gyfalafiaeth fethu cyflawni.

Un o nodweddion Prydain yn yr 80au a’r 90au oedd gwrthgodiadau lleol o bryd i’w gilydd yn erbyn yr heddlu, diweithdra, syrffed a’r dreth y pen. Bychan yw’r rhain serch hynny o’u cymharu â’r hyn sy wedi digwydd yn y gorffennol a beth allai ddigwydd yn y dyfodol. Y tu mewn i’r broses yma o newid cymdeithasol radicalaidd y lleolir comiwnyddiaeth anarchaidd. Ond beth yw comiwnyddiaeth anarchaidd?

Yn fyr (mi wnawn ni egluro ymhellach yn y bennod nesaf), mae comiwnyddion anarchaidd eisiau gweld distryw ar gyfundrefn bresennol sydd er budd y cyfoethog a’r pwerus. Yr ydym ni eisiau gweld creu byd sydd wedi ei drefnu ar gyfer cwrdd ag anghenion sylfaenol dynolryw, lle mae pawb biau cynnyrch pob gwaith (comiwnyddiaeth). Yr ydym hefyd eisiau gweld diddymu ar bwer y dosbarth teyrnasol. Rheolir cymdeithas gan yr holl bobl trwy eu cyfundrefnau eu hunain (anarchiaeth). Ond onid breuddwyd brydferth mo hyn i gyd?

Nid cynnyrch meddyliau ychydig o ddeallusion sy heb ddod i gysylltiad â thrwch y boblogaeth mo anarchiaeth. Mae’n codi yn uniongyrchol o ymrafael y gweithwyr a’r gormesedig yn erbyn cyfalafiaeth, o’u hanghenion a’u hawydd heb nas cyflawnwyd am ryddid, cydraddoldeb, hapusrwydd a hunangyflawniad. Yn y gorffennol, pryd bynnag wnaeth chwildroadau herio’r meistri, mae syniadau a chyfundrefnau anarchaidd wedi dod i’r amlwg, efallai ond am ychydig, ac yn aml heb alw eu hunain yn anarchaidd.

Yn ystod y Chwyldro Seisnig yn ystod yr 17eg ganrif datblygodd grwpiau fel y Gwastatwyr, y Brygothwyr a’r Cloddwyr syniadau am ryddid, cydraddoldeb a chyfiawnder. Yn ystod y Chwyldro Ffrengig, dechreuodd gweithwyr a chrefftwyr, a oedd yn datblygu eu syniadau eu hunain am ymwybyddiaeth o ddosbarth, ddatblygu syniadau anarchaidd (yr Enragés). Yng Nghomiwn Paris ym 1871 y dechreuwyd ar greu sefydliadau ar gyfer rheolaeth torfol a heriodd yr hen gyfundrefnau am ychydig amser cyn cael eu boddi mewn môr o waed. Yn y chwyldro Rwsaidd 1905 a 1917, datblygodd gweithwyr a’r werin bobl strwythurau tebyg ar gyfer rheolaeth uniongyrchol gan weithwyr megis cynghorau’r gweithwyr a’r pwyllgorau ffatri. Nid oes gan hyn ddim i’w wneud â chipiad pwer gan y Bolsiefiaid ym mis Hydref 1917. Yn yr un modd, adeg y Chwyldro Hwngaraidd ym1956, sefydlodd y gweithwyr gynghorau’r gweithwyr pan wnaethant herio eu gormeswyr ‘comiwnistaidd’. Yn ystod mis Mai yn Ffrainc ym 1968, cipiwyd gweithleoedd a phrifysgolion ac mewn nifer o achlysuron, fe’u gweithredwyd mewn dulliau a oedd i bob pwrpas yn anarchaidd.

Ers y symudiadau yma ar ran y gweithwyr, mae anarchiaeth wedi datblygu’n rym o blith y gweithwyr mwyaf dosbarth-ymwybodol. O’i ddechreuad yn y 19eg ganrif yn y Rhyngwladol Cyntaf, mae tueddiad anarchaidd digamsyniol wedi dod i’r amlwg, dan ddylanwad y chwyldroadwr Rwsaidd Mikhail Bakunin a’i gyfeillion a’i gymdeithion.

Ers hynny, mae anarchiaeth wedi cael dylanwad pwysig ar sefydliadau dosbarth llafur ar draws y byd, o’r America Ladin, i’r Almaen a Sweden, i Tsheina a Siapan. Mi sefydlodd wreiddiau dwfn a ac mi ddaeth yn ddylanwadol ym mudiadau ymrafael dosbarth y gweithwyr yn yr Eidal, Sbaen a Phortiwgal. Mae wedi chwarae rhan ym mhob chwyldro modern.

Mae Anarchwyr wedi dadlau yn gyson ac wedi ymladd dros yr angen i weithwyr gymryd yr awenau a rhedeg cymdeithas, a chymryd rheolaeth y gweithle i’w dwylo eu hunain. Maent wedi rhybuddio yn gyson rhag y posibilrwydd o unrhyw blaid neu eraill ddringo i rym ar gefnau’r dosbarth llafur yn ystod adegau chwyldroadol.

Yn ystod y chwyldro Rwsaidd ym 1917 profodd rhybuddion anarchaidd rhag i’r ymrafael gael ei herwgipio gan yrfawyr a gwleidyddion proffesiynol, yn iawn. Roedd milwriaethwyr anarchaidd wedi cymryd rhan weithredol a phwysig o blith y milwyr gorfod, a oedd wedi gwrthod parhau ymladd y Rhyfel Byd ac a oedd wedi cymryd rhan mewn aflonyddwch yn y trefi a chefn gwlad. Yr oeddent wedi helpu dymchwel yr oruchwyliaeth Tsaraidd a llywodraeth y gwleidyddion dosbarth canol a ddaeth yn ei hôl.

Wrth i’r flwyddyn 1917 fynd yn ei blaen, trodd y gweithwyr yn gynyddol filwriaethus a radicalaidd. Gyda brwdfrydedd, mi wnaethant feddiannu rheolaeth ffatrïoedd gan fynnu diwedd ar yr hen drefn ormesol ac arglwyddiaethol. Meddiannodd y werin y tir ac mi wnaeth gwerin filwyr dyrru yn ôl i’w cartrefi. Mabwysiadwyd y sloganau anarchaidd, ” Y tir i’r sawl sy’n ei aredig, y ffatrïoedd i’r gweithwyr ynddynt!” a “Pob grym i’r Sofietau!” (cynghorau’r gweithwyr) gan y Blaid Folsiefaidd (Gomiwnyddol). Mewn dull celfydd a thros dro, twyllodd Lenin y torfeydd chwyldroadol er mwyn cael cymryd yr awenau. Daeth y gweithwyr yn atebol i unbennaeth bleidiol ar unwaith, unbennaeth a ddaeth yn fwy milain gyda threigl y blynyddoedd.

Daeth y mudiad anarchaidd ei hun hefyd dan lach gormes y Bolsiefiaid. Yr oedd y Bolsiefiaid yn ofni dylanwad cynyddol yr anarchwyr o blith y torfeydd – yr anarchwyr oedd wedi bod ar flaen y gad wrth sefydlu pwyllgorau ffatri er mwyn redeg y gweithleoedd.

Yn yr Iwcrain, dan ddylanwad y milwriaethwr anarchaidd, Nestor Makhno, chwaraeodd y mudiad Makhofistaidd ran flaenllaw wrth drechu’r Byddinoedd(Tsaraidd) Gwyn, a oedd yn ymdeithio trwodd ar eu ffordd i ddymchwel y llywodraeth Folsiefaidd yn Petrograd. Yn llythrennol mi wnaethant achub cam yr oruchwyliaeth Folsiefaidd. Wnaeth hyn mo’u hachub rhag ymosodiadau gan Lenin a Trotsky. Gorfodwyd y Makhnofistiaid i ymladd ymlaen ar sawl ffrynt ac yn nannedd anfanteision, ond ar ddiwedd y dydd fe’u trechwyd. Serch hynny, a than amodau rhyfel anodd iawn, gwnaethant ymdrechu er mwyn cael perchnogaeth gyffredin i’r tir a oedd dan eu rheolaeth.

Felly hefyd yng ngorsaf y llynges yn Kronstadt, erbyn 1921, gwarthnodwyd llongwyr a gweithwyr, a ddisgrifiwyd ym 1917 fel “Blodau’r Chwyldro” gan yr oruchwyliaeth Folsiefaidd, fel ‘gwrthchwyldroadwyr’ a ‘milwyr gwyn’. Eu trosedd? Yr oeddent wedi cwestiynu yr unbennaeth Folsiefaidd dros y Sofietau a oedd erbyn hyn yn ddim ond cregyn gweigion yn hytrach na chyfundrefnau pwer gweithwyr. Roedd llongwyr Kronstadt, trwy ymateb i fileindra ffiaidd y polisïau Bolsiefaidd, llygredd y wladwriaeth a’r dognau newynu, mewn gwirionedd, yn atgyfodi’r achos anarchaidd yn erbyn y wladwriaeth. Am eu hyfdra fe’u llofruddiwyd i gyd mewn cyflafan.

Yn Sbaen ym 1936 y gwynebodd y mudiad anarchaidd sialens enfawr ac agorwyd y posibilrwydd o chwyldro wedi ei ysbrydoli gan anarchiaeth. Roedd yr undeb torfol anarchaidd, y Confederacion Nacional del Trabajo (Conffederasiwn Cenedlaethol Llafur), a’r sefydliad anarchaidd, y Federacion Anarquisya Iberica (Ffederasiwn Anarchaidd Sbaenaidd), ar flaen y gad pan wnaeth Franco (gyda chefnogaeth y lluoedd militaraidd, y ffasgiaid, y breniniaethwyr a’r Eglwys Babyddol) ymgais i ddymchwel y llywodraeth weriniaethol. Mewn nifer o ardaloedd, trechwyd lluoedd Franco i ddechrau gan weithwyr arfog a gwerin bobl. Mewn ardaloedd fel Catalonia ac Aragon, cymerodd y gweithwyr a’r werin reolaeth dros eu bywydau eu hunain, wrth i dir a ffatrïoedd gael eu cymryd i mewn i berchnogaeth gymunedol. Ond, o gwmpas yr undebau yn bennaf oedd anarchiaeth Sbaenaidd wedi ei sefydlu, a hefyd roedd yr undebau yn ddiffygiol o ran dealltwriaeth boliticaidd, felly, fe’i trechwyd yn fuan gan ‘gomiwnyddion’ a gwleidyddion y werinlywodraeth. Yn anffodus, arweiniodd hyn at gyfaddawdu ar wleidyddiaeth anarchaidd ac ar nifer o’r safbwyntiau anarchaidd. Trechwyd anarchiaeth Sbaenaidd, nid yn unig gan y ffasgiaid a byd busnesau mawr ond hefyd gan Stalinistiaid a gwendidau ei gwleidyddiaeth fewnol.

Mae’r amlinelliad o ddatblygiad anarchaidd a roddir yma yn dangos y gellir gwireddu newidiadau real gan weithwyr pan font wedi eu symbylu gan anarchiaeth. Nid breuddwyd Iwtopaidd mohono. Y mae’n un o’r llinynnau bythol-bresennol yn arfer y dosbarth llafur, a’r dasg yw ei wneud yn brif linyn. Tra bo gweithwyr yn chwilio am ateb rhyddewyllysiol i’w problemau adeg cyfnodau chwyldroadol, mae yna eraill fel y Trotskiaid a’r gwleidyddion dosbarth canol sy eisiau eu defnyddio i’w diben eu hunain yn eu cyrch am bwer.

Yn y gorffennol, mae anarchiaid wedi bod yn rhy ddiniwed. Gwelsant, yn ddigon cywir, mai cyfalafiaeth a’r wladwriaeth oedd y prif elynion ond nid oeddent yn ddigon ymwybodol o’r peryglon a ddeuai o’r rhai hynny oedd yn esgus bod yn rhan o fudiad y gweithwyr. Dyma’r rheswm dros yr angen am gyfundrefn anarchaidd fawr boliticaidd-ymwybodol sydd wedi ei threfnu’n dda. Mi fuasai’r fath gyfundrefn yn cynnig gweledigaethau arall o’r dyfodol, yn datblygu syniadau anarchaidd ac yn cynnig gwrth-ddadleuon i’r sosialwyr gwladwriaethol, rhyddfrydwyr a chyfeillion twyllodrus eraill y dosbarth llafur. Mae gan elynion anarchiaeth drefniadaeth dda ac mae angen i anarchiaeth fabwysiadu trefn sy’n well. Hybu gwireddiad y fath gyfundrefn yw tasg y Ffederasiwn Anarchaidd.

4. ANARCHAETH — DYFODOL POSIB

Mi fydd cymdeithas anarchaidd-comiwnistaidd yn ei hanfod yn wahanol iawn i’r ffordd yr ydym yn byw heddiw. Mae cyfalafiaeth wedi newid y byd y tu hwnt i bob adnabyddiaeth dros y ddau gan mlynedd diwethaf. Mae cyfalafwyr a ‘homiwnistiaid’ y wladwriaeth (cyfalafwyr y wladwriaeth) wedi ceisio arglwyddiaethu dros gyfundrefn natur ac wedi dod â ni o fewn dim i drychineb ecolegol. Nid yw sefyllfaoedd hunllefus ond nepell i ffwrdd wrth i natur ildio i ddiwydiannaeth, ynni niwclear, lledaeniadau carbon diocsid, datgoedwigo, ffermio ffatri, ac yn y blaen.

Mi fydd comiwnyddiaeth anarchaidd yn golygu ailfeddwl yn hanfodol y ffordd yr ydym yn rhedeg ein bywydau. Mi fydd yn rhaid i ni fyw mewn cytgord â natur nid yn ei herbyn. Oes gwir angen cymaint o geir modur? Oes angen ugain math o frws dannedd? Nad oes dulliau di-lygredd o gynhyrchu trydan? Bydd rhaid mynd i’r afael â’r rhain a llu o faterion ecolegol eraill os oes llawer o ddyfodol i fod i’r hil ddynol.

Ynghyd â newid ein perthynas â natur, bydd yn rhaid newid ein perthynas â’n gilydd. Ar hyn o bryd, mae pob agwedd o’n bywydau yn atebol i reolaeth oddi uchod. Mae miloedd o bobl mewn swyddi lle nad ydynt yn gwneud fawr ddim ar wahân i roi pawb yn eu lle a chwtogi ar ryddid. Mae ieuenctid, pobl dduon, yr hoyw ac anghydffurfwyr yn darged parod i aflonyddwch gan yr Heddlu. Unwaith rhown ein troed dros garreg drws y gweithle, mae unrhyw olwg o reolaeth bersonol yn gorfod plygu i reolaeth bitw ac erledigaeth. I lawer o fenywod a phlant, mae hyd yn oed y cartref yn anniogel yn wyneb trais teuluol.

Mae anarchiaeth yn golygu rhyddid. Ni ddylai unigolion fod yn atebol i ymyrraeth o’r tu allan cyhyd â’u bod yn parchu ac yn peidio atal rhyddid eraill. Ond nid y rhyddid i wneud fel y mynnoch yw’r unig agwedd arno. Cyn y gall rhyddid fodoli go iawn, mae angen sicrwydd, amgylchedd diogel a gofalus a’r modd i gyflawni potensial dynol yn llawn. Golyga rhyddid, felly, yr addysg a’r gofal iechyd gorau posib i’n galluogi i gael y gorau allan o fywyd.

Y ffordd orau o gryfhau rhyddid yw trwy ddatblygu cymunedau lle y gall pobl redeg eu bywydau eu hunain. Gyda gyfalafiaeth, mae cymunedau bron â diflannu o’r tir wrth i unigolion a theuluoedd gloi eu hunain i mewn i’w tai a’u hynysu eu hunain wrth bawb arall. Mewn cymdeithas anarchaidd mae’n sicr y buasai gwahanol fathau o gymunedau yn bodoli, wedi’u seilio efallai ar y gweithle neu’r lleoliad daearyddol. Mi fydd cymunedau yn ymuno yn wirfoddol ag eraill i greu rhwydwaith o sefydliadau annibynnol ond eto yn gydweithredol a’r rhain fuasai’n gweinyddu cymdeithas.

Mi fydd y gyfundrefn yma a adwaenir fel ffederasiwn yn cyfuno cymunedau ar lefelau gwahanol, o’r lleol i’r rhyngwladol. Trwy seilio trefn cymdeithas ar ymdeimlad o gydgefnogaeth a chydweithrediad, gall unigolion gymryd rhan yn y broses o redeg eu bywydau, gan gyfrannu at ymestyn eu rhyddid.

Felly mi fuasai pobl, am y tro cyntaf yn cymryd rheolaeth uniongyrchol o’u bywydau eu hunain. Ni fuasai lle i arweinyddiaethau, penaethiaid, gwleidyddion proffesiynol na gweision sifil. Lle buasai rhai tasgau yn gofyn am berson mewn sefyllfa o gyfrifoldeb, llenwid y fath swydd ar sail wirfoddol neu, o bosib, rhan amser. Mi fuasai pobl a fuasai’n ymgymryd â’r fath dasgau yna yn eu gwneud ar sail cael eu galw yn ôl ar fyrder gan y bobl y byddent yn eu gwasanaethu.

Mi fuasai anarchiaeth yn golygu diwedd ar ‘gyfraith a threfn’ fel yr ydym ni yn eu hadnabod. Modd yw’r gyfundrefn gyfreithiol, sy’n cynnwys yr heddlu, ynadon, barnwyr a charchardai o amddiffyn y cyfoethog a’r pwerus rhag trwch y boblogaeth. Diddymir y fath sefydliadau ar ôl distrywio anghydraddoldeb a llywodraeth. Mi fuasai’r carchardai yn cael eu dymchwel, y barnwyr yn cael eu hymddeol a’r heddlu yn cael eu hail gyflogi i wneud gwaith a fuasai’n fuddiol i gymdeithas. Yn erbyn eiddo y mae’r rhelyw o drosedd ac fe’i hachosir gan anghydraddoldeb o ran cyfoeth. Wrth i eiddo gael ei gymunedu, ac wrth i anghydraddoldeb ddiflannu, felly hefyd y daw diwedd ar bron pob troseddu. Wrth gwrs, mi fuasai yna elfennau gwrthgymdeithasol yn dal mewn bodolaeth ond mi fuasai’r cymunedau eu hunain yn delio â nhw mewn modd cyfiawn a dynol.

Mae cyfalafiaeth wedi aflunio a gwyrdroi pob perthynas ddynol. Canlyniad rhoi arian o flaen pobl yw trachwant, hel arian, dyrchafiadau yn y gweithle, diraddio bodau dynol i fod yn unedau economaidd a llawer mwy.

Mi fuasai comiwnyddiaeth anarchaidd yn diddymu cyfalafiaeth ac eiddo preifat ac yn eu dodi yn nwylo’r bobl. Mi fuasai adeiladau cyhoeddus, siopau, swyddfeydd, ffatrïoedd, warysau a thir yn nwylo’r cymunedau i’w datblygu er lles pawb. Nid yw hyn, wrth gwrs , yn golygu diwedd ar eiddo personol.

Mae comiwnyddiaeth yn gofyn am ddiddymu arian a, pan fo’r amodau’n caniatáu hynny, dosbarthu nwyddau a gwasanaethau yn rhad ac am ddim ar sail angen personol. Mewn geiriau eraill, gall pobl gymryd yr hyn y maent ei angen fel bo’r angen. Os na fuasai cynhyrchu yn ddigonol i gwrdd â’r angen yna mi fuasai nwyddau a gwasanaethau yn cael eu rhannu allan yn gyfartal er mwyn sicrhau dosbarthiad teg. O ystyried technoleg cyfrifiadur modern, ni ddylai fod yna fawr ddim anhawster wrth gynllunio cynhyrchu a dosbarthiad i gwrdd ag anghenion pawb, yn enwedig os nad oes yna’r dyblygu gwastraffus sy’n nodweddu’r gyfundrefn bresennol.

Ar hyn o bryd, i’r rhelyw o bobl, rhywbeth i’w osgoi ar bob cyfrif yw gwaith, ond bod dal ei angen er mwyn sicrhau safon goddefadwy o fyw. Mewn economi anarchaidd-comiwnistaidd, diddymir gwaith dianghenraid a lleiheir gwaith angenrheidiol yn unol â dymuniadau pobl. Yna, dognir gwaith annymunol wedi iddo gael ei leihau i’r isafswm isaf posib gan dechnoleg addas neu fe’i gwneir gan bobl nad ydynt yn ffeindio gwaith o’r fath yn annymunol. Diddymir y gwahaniaeth rhwng gwaith a pheidio gweithio wrth i bobl unwaith eto fabwysiadu dull cydgordiol o fyw.

Ond nid mater yn unig o fath newydd o economi neu ddull trefn cymdeithas mo comiwnyddiaeth anarchaidd. Fel proses parhaus yn cychwyn cyn y chwyldro ac yn datblygu wedi hynny, mae angen ymosod ar bob cred, agwedd, sefydliad ac arfer sy’n lleihau rhyddid a chyfiawnder. Mae angen diddymu crefydd, rhagfarn rhyw, oedraniaeth, hiliaeth, trachwant a hunan ddyrchafiaeth, neu mi fydd y chwyldro wedi bod yn ddibwrpas. Ond ni allwn wneud mwy nag amlinellu rhai o’r datblygiadau a allai gymryd lle. Mae nifer o bethau yn codi na allwn eu rhagweld ac felly nid yw’r amlinelliad yma o gymdeithas anarchaidd mewn unrhyw ystyr yn lasddarlun sanctaidd a digyfnewid.

5. Y BYD YN EICH DWYLO

Os edrychwch chi ar y byd fel ag y mae e heddiw, o’i gymharu â’r gyfundrefn garai comiwnistiaid anarchaidd ei gweld, yna – a dweud y lleiaf – mae gennym llond cae o waith o’n blaen.Mae sicrhau’r fath newid yn ymddangos yn dasg enfawr.

Ond cyn wnaiff hyn oll beri i chi chi ddanto, cofiwch ein bod yn byw mewn byd sy’n newid yn gyflym. Ni fuasai fawr neb yn adnabod y byd yr ydym yn byw ynddo heddiw hyd yn oed o ryw ugain mlynedd yn ôl. Mewn gwirionedd, mae’r byd wedi newid mwy yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf nac yn ystod y pum cant blaenorol.

Mae ffactorau fel economeg a thechnoleg wedi chwarae eu rhan wrth lunio’r byd ond ar ddiwedd y dydd, y bobl sydd yn newid pethau mewn gwirionedd. Yn gynharach, cyfeiriwyd at y wladwriaeth les fel dull o reoli. Ond ar y llaw arall, dim ond oherwydd i’r dosbarth llafur ymladd amdanynt (er bod gwleidyddion yn aml wedi hawlio’r clod) y daeth gofal iechyd sylfaenol i fodolaeth o gwbl. Heb fygwth gweithredu, ni fuasem fyth wedi ennill yr hawl i’r fath bethau. Mae streiciau, neu eu bygwth yn helpu gwella cyflogau ac amodau gweithio. Heb weithredu o du ein dosbarth ni, dim ond gwaethygu mae pethau. Yn yr un modd, diddymwyd treth y pen wrth i bobl ymladd yn ei herbyn a gwrthod talu.

Hyd y dydd heddiw, mae gennym y gallu i newid pethau os wnawn weithredu ar y cyd.. Mae’r grym i drawsnewid cymdeithas yn nwylo y rhai sy’n creu popeth – y dosbarth llafur. Dyma ffynhonnell ein nerth yn y pen draw, petaem yn ei ddefnyddio, y grym, nid i gyflawni ychydig o ddiwygiadau ond i drawsnewid y gyfundrefn yn llwyr, i gyflawni chwyldro gymdeithasol.

Y Chwith

Nid comiwnistiaid anarchaidd yw’r unig bobl i siarad am chwyldro. Er i aml ‘chwyldro’ ddigwydd yn y gorffennol, mae cyfalafiaeth yn dal i fodoli. Nid yw comiwnyddiaeth iawn wedi bodoli yn unman; Nid oedd y diweddar Undeb Sofietaidd yn ei anterth ‘sosialaidd’ yn unrhywbeth o’r fath. Ffurf ar gyfalafiaeth (cyfalafiaeth y wladwriaeth) oedd ‘comiwnyddiaeth’ y wladwriaeth gyda’r blaid Gomiwnyddol yn ‘bennaeth’ a biwrocratiaid y blaid, y breintiedig rai.

A derbyn dymchwel comiwnyddiaeth yn Nwyrain Ewrop bellach, syndod yw darganfod fod yna grwpiau yn dal i fodoli ym Mhrydain sy eisiau dilyn esiampl yr Undeb Sofietaidd. Eto, yn rhyfeddol, mae mudiadau fel y Tueddiad Milwriaethus a Phlaid y Gweithwyr Sosialaidd yn dal i ganu’r un hen gân. “Mae’r gweithwyr ar ei hôl hi”, meddent, “mae angen arweiniad mudiadau tebyg i ni”, meddent eto. “Mae yna argyfwng arweiniad; dim ond ni sy’n gwybod y ffordd ymlaen………mae angen disgyblaeth plaid…..plaid o arweinwyr a’r sawl sy’n cael eu harwain………”, ac yn y blaen.

Roedd model yr hen Undeb Sofietaidd o sosialaeth honedig yn drychineb i’r dosbarth llafur ar draws y byd. P’un ai oedd y bobl yma yn dilyn dysgeidiaeth Lenin, Trotsky, Stalin neu Mao, y gwir amdani yw bod eu gau broffwydi wedi profi’n elynion milain i’r dosbarth llafur go iawn (yn groes i’w ffantasïau am y dosbarth llafur). Mae neges yn eglur:

mae angen i’r dosbarth llafur a’r rhai sy dan ormes, os ydyn ni fyth i ennill ein rhyddid, i fwrw ati ein hunain heb arweinwyr hunan-apwyntiedig.

Os yw’r bobl yma byth i lwyddo yma, yna mi fyddant yn dod i mewn â dulliau newydd o gamddefnyddio a gormes. Mi wnânt weiddi am sosialaeth a’r byd newydd braf, ond y nhw, nid y sathredig fydd yn llywodraethu. Mi fyddant wedi newid enw’r gyfundrefn ond mi fydd y gormes a’r ymelwad yn parhau.

Mae’r Blaid Lafur weithiau yn defnyddio’r gair ‘sosialaeth’ wrth ddisgrifio eu polisïau ond nid yn aml iawn! Unwaith eto, nid yw’r Blaid Lafur yn, nac wedi bod yn, Sosialaidd. Mae’r Blaid Lafur yn darparu swyddi ar gyfer rhai cannoedd o yrfawyr dosbarth canol ond nid yw wedi gwneud fawr o les i neb. Er gwaethaf sawl Llywodraeth Lafur (Sawl blwyddyn yn ôl?) wnaeth dim byd newid. Mi wnaeth Gyfalafiaeth barhau fel ag o’r blaen.

y dewis anarchaidd – y FfA

Ond rhoddodd y Blaid Lafur y gorau i bob esgus o newid radicalaidd achau yn ôl. Dim ond grp bach byth lleihaol o’r hunan dwylledig a threiddwyr sy’n canfod unrhyw obaith o’r cyfeiriad yma.

Sefydlwyd y Ffederasiwn Anarchaidd er mwyn hyrwyddo’r ymrafael am fyd sy’n well – byd heb wleidyddion, cadfridogion, offeiriadon a phenaethiaid. Tra nad ydym yn gweld ein hunain fel casgliad o broffwydi sy’n gwybod yr holl atebion, credwn fod gennym safbwyntiau a syniadau defnyddiol a allai fod o ddefnydd i’r dosbarth llafur. Mae gennym hefyd weledigaeth bendant am y nodd o gyrraedd byd heb gamddefnyddiaeth.

Ar hyn o bryd, yr ydym yn ceisio lledaenu ein syniadaeth o blith y dosbarth llafur. Golyga hyn gynhyrchu cylchgronau, pamffledi, llyfrynnau, posteri, casetiau, et cetera, er mwyn lledaenu’r neges anarchistaidd i’r gynulleidfa fwyaf eang posib.. Ond nid mater o gael syniadau da yn unig mo comiwnistiaeth anarchaidd. Ar eu pen eu hunain, mae syniadau yn ddiwerth. Mae angen hefyd eu gweithredu. Felly mae’r FfA wrthi yn cefnogi streicwyr, sgwatwyr, tenantiaid, carcharorion, gwrthdystiadau, terfysgoedd et cetera. Ond nid ydym yn ymgyfrannu, dim ond er mwyn lledaenu ein syniadau, ond gan ein bod yn credu mai trwy y fath ymrafael a’u cysylltu i fewn i fudiadau cymdeithasol y gallwn ddatblygu’r hyder dosbarth yn ein galluoedd i newid y sefyllfa sydd ohoni. Mae hybu’r fath hyder yn bwysig gan y gall buddugoliaeth fach heddiw olygu buddugoliaeth yn fwy yfory.

Yr ydym yn ymgyfrannu mewn ymgyrchoedd fel Comiwnistiaid Anarchaidd, mewn geiriau eraill, yr ydym yn gwthio’r syniad y dylai pob ymrafael gael ei rheoli gan y bobl sy’n ran ohoni, nid y penaethiaid pleidiau allanol, y cynhyrfwyr, biwrocratiaid yr undebau llafur, nac arweinwyr cymunedol hunan-apwyntiedig.

Ym mhob rhan o’r gymuned, yr ydym yn cefnogi creu sefydliadau gwerin gwlad megis grwpiau merched ymreolus a dosbarth llafur i ymladd gormes rhywiol. Yn yr un modd yr ydym yn cefnogi grwpiau pobl ddu dosbarth llafur ymreolus yn eu brwydr yn erbyn hiliaeth a ffasgiaeth. Yn y gweithleoedd, yr ydym yn hyrwyddo creu mudiad ymreolus nerthol y tu allan i reolaeth yr undebau a rheolaeth. Ar yr un pryd, yr ydym yn ceisio creu grwpiau anarchaidd chwyldroadol mewn diwydiannau er mwyn lledaenu’r neges anarchaidd. Ym mhob achos, brwydr yn erbyn cyfalafiaeth yw’r frwydr dros ryddid.

Nid yw’r FfA yn ceisio gwneud unrhyw fater neu ymrafael yn flaenoriaeth dros eraill. Am yn rhy hir, cael ei rannu a’i reoli yw tynged y dosbarth llafur. Y mae’n bwysig y tu hwnt i gysylltu pob ymrafael dosbarth llafur er mwyn creu mudiad cymdeithasol torfol yn erbyn y gyfundrefn bresennol.

Diwylliant gwrthsefyll dosbarth llafur

A dyma ein nod yn y tymor canolig, creu mudiad cydgefnogol enfawr o ymladdwyr i fynd i’r gad yn erbyn gormes y dosbarth llywodraethol.

Mae hi’n bwysig creu’r modd i’n dosbarth ymateb i ymosodiadau. Yn y byd sydd ohoni, oherwydd y tueddiad i wahaniaethu pob ymrafael, mae’n hawdd delio â nhw fesul un. Hanfod creu undod y gwir ddosbarth llafur yw canfod ymosodiad ar unrhyw ran o’n dosbarth fel ymosodiad ar bob un ohonom.

Nid ydym yn dweud mai mudiad amddiffynnol yn unig y dylai’r fath fudiad fod. Trwy hybu hyder yn ein hunain fel dosbarth, yr ydym yn creu’r modd i fynd i’r gad yn erbyn y gyfundrefn.

A thrwy fynd i’r gad, yr ydym yn golygu creu cyfundrefn hunan-drefnedig dorfol a chreu cynghorau gweithwyr fel dull o hyrwyddo grym a hunan drefniadaeth y dosbarth llafur. Yn ogystal â hyn mi fydd sefydliadau tenantiaid a chymunedau, yr oll wedi eu rheoli gan y rhai sy’n ran ohonynt, yn galw am streiciau rhent torfol, gwrthdystiadau, terfysgoedd ac aflonyddwch cymdeithasol. Mi fuasai gan y fath fudiad y grym i ddinerthu cyfalafiaeth yn llwyr.

Mae dosbarth y penaethiaid yn ddigon hapus â phethau fel ag y maent (ar wahân i ambell i lithriad economaidd). Mae syniadau comiwnyddiaeth anarchaidd yn codi arswyd arnynt. A phan soniwn am greu mudiad cymdeithasol torfol a fydd yn ymosod ar union seiliau y gyfundrefn gyfalafol, yna mae gwersi hanes yn dweud wrthom y gwna’r cyfalafwyr ddefnyddio holl rym y wladwriaeth i’n rhwystro. Mai hyn am ein bod yn sôn am chwyldro cymdeithasol. Mi wnânt ddefnyddio, nid un unig yr heddlu, ond hefyd y fyddin (petai’n para yn ffyddlon i’r gyfundrefn). Mi wnânt ddefnyddio minteioedd o ffasgiaid, ysbïwyr, agents provocateurs, hurfilwyr, unrhyw beth er mwyn ein rhwystro.

Oherwydd hyn, mae’n dra thebyg y dilynir unrhyw ymgais am chwyldro cymdeithasol gan wrth chwyldro o ddosbarth y penaethiaid a’u dilynwyr. Felly fe fydd angen gwrthgodiad arfog adeg unrhyw newid cymdeithasol sylweddol yn erbyn dosbarth y penaethiaid. Gall ymrafael dosbarth, dan reolaeth y gweithwyr, roi nifer o hanfodion comiwnistiaeth anarchaidd i mewn i weithrediad, ond eto mi fydd angen creu byddinoedd y gweithwyr er mwyn iddynt amddiffyn eu hunain ac, yn y pen draw, trechu a diddymu cyfalafiaeth.

Efallai fod hyn yn swnio braidd yn drwm ond eto, gyda chyfalafiaeth yn mynd ar ei ben tuag at ansefydlogrwydd economaidd cynyddol, rhyfeloedd ‘confensiynol’ a niwclear, a distryw amgylchfydol, yna mewn gwirionedd, mae’r amserau drwg yma’n barod ac yn gwaethygu wrth y funud.

moddau a dibenion

Yr ydym eisiau dyfodol i’n hunain a’n plant – a dyfodol sy’n cynnig y rhyddid pennaf heb gamddefnyddiaeth economaidd. Credwn ein bod wedi gosod y seiliau er gwireddu hyn heddiw. Mae’r FfA yn ymladd am y fath ddyfodol. Yr ydym yn trefnu heddiw mewn modd sy’n adlewyrchu ein nod yn y pen draw. Nid ydym yn fiwrocratiaeth anhyblyg (fel y sefydliadau asgell chwith), sy’n cael eu rhedeg a’u trafod gan benaethiaid y pleidiau. Mewn gwirionedd, nid oes gennym unrhyw swyddogion amser llawn na pharhaol na phwyllgorau canolog, dim arweinwyr a dilynwyr. Penderfynir ein safle ar wahanol faterion ac ar weithrediadau trwy ymgyfraniad cyfartal( cyn belled ag y mae pobl yn dewis cymryd rhan), mewn nifer o wahanol ffyrdd. Mae’r rhain yn cynnwys trafodaethau printiedig mewn bwletin mewnol, cynadleddau blynyddol (sy’n agored i’r holl aelodau, cyfarfodydd anfonogion (sy’n cynnwys yr holl anfonogion grp lleol dros dro ac aelodau unigol) ac ysgolion undydd rheolaidd. Etholir pob ‘swyddog’ e.e. ysgrifennydd cenedlaethol, trysorydd am gyfnodau penodedig ac mi allant gael eu diswyddo gan y gynhadledd neu gyfarfod anfonogion os ydynt yn ymddwyn mewn dulliau amhwrpasol.

Ys dywed ei deitl, ffederasiwn yw’r FfA. Prif nod y FfA yw gweithredu mewn dull unedig er sicrhau y dylanwad mwyaf ar y dosbarth llafur. Felly, mae aelodau yn ymuno, wedi iddynt dderbyn nifer o nodau ac egwyddorion sylfaenol (sydd wedi eu printio ar ddiwedd y pamffled). Hefyd mae gan aelodau sy wedi cyfrannu’n llawn at dynnu’r polisïau i fyny gyfrifoldeb i sicrhau eu gweithrediad. Serch hynny, golyga hyn y bydd grwpiau lleol ac aelodau unigol yn gosod eu nodau a’u gweithrediadau eu hunain o fewn y cyd-destun yma.

Mae gweithrediad y Ffederasiwn Anarchaidd yn nwylo ei holl aelodau. Yr ydym eisiau creu byd lle mae grym yn nwylo’r holl bobl.

Os teimlwch eich bod yn cytuno yn gyffredinol â’r syniadau fynegwyd yn y pamffled yma ac yn cytuno â’n Nodau ac Egwyddorion, yna yr ydym yn eich annog i wneud cais am aelodaeth er mwyn helpu adeiladu ein mudiad. Mi allwch wneud hyn trwy ysgrifennu at: afed.org.uk

Leave a Comment »

No comments yet.

RSS feed for comments on this post. TrackBack URI

Leave a comment

Create a free website or blog at WordPress.com.